8L – Devoirs (Gwaith Cartref)

Bonjour la classe!  Dyma eich brawddegau i’w cyfieithu gan ddefnyddio eich siart corryn o’r wers.  Cofiwch ddefnyddio eich taflen ac NID Google Translate!!  Mae popeth sydd angen arnoch i gwblhau’r gwaith yn eich llyfrau neu ar eich Matiau Iaith felly defnyddiwch nhw!

Mae’r brawddegau i’w gweld isod – mi fydd angen i chi ychwanegu rheswm o’ch dewis chi ar ddiwedd pob brawddeg (defnyddiwch amrywiaeth o resymau!).  Gwnewch yn sicr bod y rheswm yn synhwyrol ar gyfer gweddill y frawddeg.

Edrychwch ar yr enghraifft yma :

Rwy’n dwlu chwarae pêl-droed achos… => J’adore jouer au foot parce que c’est super!

Triwch chi rhain nawr:

1. Rwy’n dwlu mynd i’r sinema achos…

2. Dydw i ddim yn hoffi gwrando ar y radio achos…

3. Mae’n well gen i sgio achos…

4. Rwy’n mynd i ddarllen comics achos…

5. Rwy’n gallu gwneud judo achos…

6. Hoffwn i wylio gêm rygbi achos…

7. Rydw i eisiau mynd i’r dref achos…

8. Rwy’n hoffi gwrando ar fy iPod achos…

9. Rwy’n casau chwarae’r piano achos…

10. Hoffwn i siopa achos…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s