Journée Internationale du Bonheur…avec Pharrell!

Yn ogystal a bod yn ‘Journée Internationale de la Francophonie’ (gweler post diwethaf!), mae’r 20fed o Fawrth HEFYD yn ‘Journée Internationale du Bonheur’ (Bonheur => Hapusrwydd).  A wyddoch chi bod y Cenhedloedd Unedig (sydd yn gyfrifol am drefnu’r diwrnod) wedi dewis Pharrell Williams fel noddwr swyddogol y diwrnod y flwyddyn yma?  Mae’n rhaid eich bod yn byw mewn ogof os nad ydych wedi clywed ei gân ‘Happy’ yn cael ei chwarae ar y radio pob 5 munud yn ddiweddar, ac efallai eich bod hefyd wedi gweld rhai o’r fideos sydd wedi eu hysbrydoli gan ei fideo gwreiddiol ef ar gyfer y gân yma!  Wel, i godi gwên ar eich gwynebau (er ei fod dau ddiwrnod yn hwyr!), dyma fideo sy’n dangos pobl hapus Paris yn dawnsio i ‘Happy’ o flaen rhai o olygfeydd enwocaf y ddinas!  🙂

Advertisements