Dyma flog newydd yr Adran Ffrangeg. Prif bwrpas y blog yma yw i rannu deunydd defnyddiol neu ddiddorol gyda chi. Gallwn hefyd ei ddefnyddio i rannu eich gwaith, a’ch gofyn i wneud asesu-cyfoed ar waith eich gilydd. Mae croeso i chi wneud sylw ar unrhyw bost sydd ar y blog, ond sylwch y bydd yr holl sylwadau yn cael eu golygu gan athrawon yr adran cyn eu cyhoeddi felly efallai na fydd eich sylw yn ymddangos yn syth. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad!
A bientôt!
Madame James, Madame Lewis et Madame Jenkins