Adolygu Blwyddyn 7

Dyma’r cyflwyniad i’ch cynorthwyo gyda’ch adolygu ar gyfer y papur Darllen a Deall. Rydych wedi paratoi atebion ar gyfer y rhan ysgrifenedig o’r arholiad – cofiwch eu dysgu yn ofalus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cofiwch edrych yn eich Vocabulaire, neu medrwch holi eich athrawes!

Année 7 – Les mois de l’année

Dyma gân i’ch cynorthwyo i gofio misoedd y flwyddyn – a sut i’w hynganu (dweud) yn gywir! Canwch ac ymarferwch!
Dau gyfarwyddyd bach defnyddiol i chi wybod yn y gân: ystyr ‘lentement’ yw ‘yn araf’ ac ystyr ‘plus vite’ yw ‘yn gyflymach’!

Les nombres 1-100,000 – waouh!

Dyma fideo gyda chân bach i’ch cynorthwyo i ddysgu’r rhifau yn Ffrangeg o 1…yr holl ffordd i 100,000! Gwrandewch yn ofalus ar yr ynganiad a cheisiwch ymuno yn y gân 🙂
(Cofiwch bod 70 yn cael ei fynegi fel ‘chwechdeg-deg’ – soixante-dix, 80 fel ‘pedwar-ugain’ – quatre-vingt, a 90 fel ‘pedwar-ugain-deg’ – quatre-vingt-dix)

Blwyddyn 7 – Spelling Bee Ffrangeg!

spelling_bee

Bonjour! Dyma’r ddolen i’r deunydd ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Spelling Bee i chi, Flwyddyn 7.

Cystadleuaeth Spelling Bee

Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer eich paratoi i gymryd rhan yn hyderus yn y gystadleuaeth ddosbarth ar ddiwedd mis Tachwedd! Mi fyddwn yn mynd ati, ychydig ar y tro, i ddysgu’r 50 gair cyntaf dros yr wythnosau i ddod.

Cofiwch y bydd angen i chi:
1. gyfieithu’r gair a’i ynganu yn Ffrangeg yn gywir
2. sillafu’r gair gan ddefnyddio’r wyddor Ffrangeg

Mi fydd gennych UN MUNUD i gyfieithu cymaint o eiriau yn gywir â phosib! Cofiwch ymarfer yn gyson ac am gyfnodau byr er mwyn medru dysgu cyfieithu a sillafu’r geiriau yn llwyddiannus – mae 5 munud pob dydd yn well na hanner awr unwaith yr wythnos, cofiwch!