Dyma BwerBwynt yn esbonio sut mae ffurfio amser y dyfodol. Astudiwch y cynnwys, gwnewch nodiadau i’ch cynorthwyo, ac ysgrifennwch frawddegau yn eich llyfrau yn ôl y cyfarwyddiadau. Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r gwaith fel eich bod yn deall y gwaith erbyn y wers nesaf! Unrhyw broblemau, dewch i weld Mrs James mewn da bryd!
Tag Archives: Gramadeg
Année 10 – Les verbes réguliers au présent
Dyma fideo sydd yn eich atgoffa sut i ffurfio berfau rheolaidd yn y presennol. Gwyliwch cymaint o weithiau a sydd ei angen nes eich bod yn hyderus yn ffurfio’r berfau -er, -ir a -re yn y presennol.
Dau beth pwysig i’w gofio:
1. Cofiwch ein bod yn defnyddio berfau yn y presennol i ddweud beth rydym yn gwneud NAWR, y funud yma, ond hefyd i esbonio beth rydych yn gwneud FEL ARFER.
2. Cofiwch hefyd, er ein bod yn dweud (er enghraifft) ‘Rydw i yn chwarae’ yn Gymraeg, rhaid defnyddio’r ferf jouer yn y presennol (h.y. ‘je joue’) i gyfieithu hyn a DIM DWEUD ‘je suis jouer’ (ych a fi!!!).
Blwyddyn 8 – Rhedeg berfau -er rheolaidd
Dyma adnodd bach i’ch atgoffa sut i redeg berfau -er yn Ffrangeg. Rhai pethau i chi gadw mewn cof :
1. Mae ‘rhedeg berf’ yn golygu dangos PWY sy’n gwneud BETH a PHRYD (e.e. Rydw i’n canu => PWY? Fi ; BETH? Canu ; PRYD? Nawr/Fel arfer)
2. Mae llawer iawn o ferfau -er i’w cael yn Ffrangeg felly gall ddysgu’r rheolau yma eich cynorthwyo i ddefnyddio dewis mawr o ferfau yn gywir wrth siarad neu ysgrifennu Ffrangeg!
3. Mae rhai berfau pwysig, fel ‘aller’ (‘mynd’ yn Gymraeg), yn edrych fel berf -er ond NID yw’n defnyddio y patrwm yma yn anffodus!