Année 11 – Audioboos ‘Mes Vacances’

Dyma’ch recordiadau o’r wers ddydd Gwener, Blwyddyn 11.  Da iawn am sgyrsio’n dda am 5 munud gyda’ch gilydd!  Un tip bach – cofiwch nad ydym yn dweud ‘e’ heb acen ar ddiwedd geiriau, yn enwedig berfau yn y presennol, e.e.

– dylai ‘je reste‘ (rwy’n aros) gael ei ynganu fel ‘je rest

– dylai ‘je préfère‘ (mae’n well gen i) gael ei ynganu fel ‘je préfèr‘.

– dylai ‘je voyage‘ (rwy’n teithio) gael ei ynganu fel ‘je voyaj

Arwyddion da yma, felly edrych ymlaen i’ch clywed ddydd Llun.

Audioboos – Mes Vacances

Année 10 – Audioboo – Ma famille et mes copains

Bonjour la classe! Dyma’ch gwaith llafar ar yr uned gyntaf, ‘Moi et quelques autres’, yn trafod eich teulu a’ch ffrindiau. Eich tasg yw:
1. Gwrando ar waith eich hunan a’i asesu ar eich taflen waith, ac yna
2. Gwrando ar waith un o’ch cyfeillion a’i asesu trwy adael sylw ‘Dau seren a dwy dymuniad’ yn sylwadau’r post yma.
Mae popeth a ysgrifennwch yma yn weledol i bawb felly ystyriwch cynnwys eich asesiad yn ofalus! Mae pob sylw angen ei gymeradwyo, felly efallai na fydd yn ymddangos yn syth.

Mae’r sylwadau gorau yn mynd i fod yn benodol iawn – dyma’r ffordd o orau o helpu rhywun i wella, cofiwch! Dyma rhai pethau i chi ystyried wrth i chi wrando ar waith eich cyfaill:

a) Sut mae ei (h)acen? Ydyn nhw’n swnio yn Ffrangeg? Oes unrhyw eiriau penodol mae angen iddynt gymryd gofal gyda nhw? Ydyn nhw’n tueddu dweud yr -s ar ddiwedd geiriau neu’r -ent ar ddiwedd berfau ‘ils’ – mae’r ddau beth yma i fod yn dawel, cofiwch.

b) Ydyn nhw wedi defnyddio’r iaith newydd a ddysgon ni yn ystod yr uned, fel y berfau atblygol, yr ansoddeiriau newydd, a’r swyddi? Ydyn nhw wedi ei ddefnyddio’n gywir? Ydyn nhw wedi defnyddio adferfau, fel ‘souvent’, ‘quelquefois’ a ‘toujours’, yn y gwaith? Ydy’r iaith yn swnio fel safon TGAU, neu ydy fe’n rhy debyg i safon Blwyddyn 8 neu 9?

c) Ydych chi’n clywed brawddegau estynedig neu gymhleth? Neu ydy eu brawddegau yn tueddu bod braidd yn fyr neu’n syml yn eu strwythur?

ch) Ydy nhw wedi cynnwys unrhyw ferfau yn y gorffennol neu’r dyfodol? Neu ai’r presennol yn unig a glywch?

Dyma’r ddolen – pob hwyl arni 🙂

Audioboo – Moi et quelques autres