Newyddion da – dim gwersi Ffrangeg heddiw o gwbl!
…Ffwl Ebrill!…
Yn Ffrainc, mae pobl yn dathlu’r 1af o Ebrill trwy geisio glynu pysgod papur ar gefn pobl eraill heb iddynt wybod!
Os hoffech chi geisio dala rhywun, y cyfan sydd angen gwneud yw torri siap pysgodyn syml allan o bapur, glynu bach o dâp selo iddo ac yna…ceisio ei chael ar gefn eich ‘dioddefwr’ dewisiedig! Unwaith i’r pysgodyn gael ei ddarganfod, rhaid galw “Poisson d’avril!”