Bonjour! Dyma’r ddolen i’r deunydd ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Spelling Bee i chi, Flwyddyn 7.
Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer eich paratoi i gymryd rhan yn hyderus yn y gystadleuaeth ddosbarth ar ddiwedd mis Tachwedd! Mi fyddwn yn mynd ati, ychydig ar y tro, i ddysgu’r 50 gair cyntaf dros yr wythnosau i ddod.
Cofiwch y bydd angen i chi:
1. gyfieithu’r gair a’i ynganu yn Ffrangeg yn gywir
2. sillafu’r gair gan ddefnyddio’r wyddor Ffrangeg
Mi fydd gennych UN MUNUD i gyfieithu cymaint o eiriau yn gywir â phosib! Cofiwch ymarfer yn gyson ac am gyfnodau byr er mwyn medru dysgu cyfieithu a sillafu’r geiriau yn llwyddiannus – mae 5 munud pob dydd yn well na hanner awr unwaith yr wythnos, cofiwch!