8P – Prawf ‘Adeiladu Brawddegau’

Cofiwch mai eich gwaith cartref yw dysgu’r termau ‘Adeiladu Brawddegau’ ar gyfer prawf ar ddydd Llun. Mae’r berfau yma yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer eich cynorthwyo i amrywio eich iaith a mynegi yn union beth hoffech chi ddweud – yn hytrach na dim ond esbonio beth rydych yn hoffi neu ddim yn hoffi gwneud!

Cofiwch am ‘Edrych-Dweud-Cuddio-Ysgrifennu-Gwirio’ (neu ‘Look-Say-Cover-Write-Check’ yn Saesneg) fel techneg dysgu da :
1. Edrychwch ar y gair/strwythur
2. Dywedwch y gair/strwythur yn uchel
3. Cuddiwch y gair/strwythur
4. Ysgrifennwch y gair/strwythur
5. Gwiriwch y gair/strwythur – ydych chi wedi ei sillafu’n gywir?

Ar ôl gwneud ychydig o adolygu gyda’ch Mat Iaith Graidd yn defnyddio’r dechneg ‘Edrych-Dweud-Cuddio-Ysgrifennu-Gwirio’, rhowch dro ar y 2 gêm yma i brofi eich dysgu! Mae’r un cyntaf yn gofyn i chi ddewis y cyfieithiad cywir i fwydo’r pysgodyn. Mae’r ail un yn gofyn i chi deipio’r geirfa yn gywir er mwyn medru taflu bananas y mwnci at y targed!