Il fait beau – youpi!

Gan bod yr haul mas o’r diwedd, dyma gyfle i ddysgu rhai dywediadau bach Ffrengig sy’n defnyddio’r gair ‘soleil’, sy’n golygu ‘haul’.  Beth am geisio dysgu a defnyddio un o’r rhain er mwyn swnio’n fwy Ffrangeg wrth siarad?  Er enghraifft…Tous les matins, je me lève avec le soleil.

Oh là là! – Ebychiadau yn Ffrangeg!

Mae dysgu rhai ebychiadau (‘exclamations’ yn Saesneg) yn ffordd wych o’ch galluogi i ymateb yn fwy naturiol yn Ffrangeg, ac i fedru mynegi eich gwir deimladau ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei drafod.  Dyma restr o ebychiadau bach defnyddiol i’w defnyddio er mwyn dangos bod rhywbeth wedi rhoi syrpreis, sioc neu braw i chi!  Beth am geisio defnyddio rhai ohonynt y tro nesaf rydych yn trafod yn Ffrangeg?

etonnement

Quand les poules auront les dents…

Quand les poules auront les dents...

Dyma ddywediad da yn Ffrangeg! Sylwch bod y ddwy iaith yn defnyddio anifeiliaid i gyfleu yr un syniad (h.y. nad yw rhywbeth yn debygol o ddigwydd), er eu bod yn anifeiliaid gwahanol – mae’r Saeson yn siarad am foch yn hedfan a’r Ffrancwyr yn siarad am ieir yn tyfu dannedd!  Sut mae cyfleu yr idiom yma yn Gymraeg tybed?