Année 11 – Audioboos ‘Mes Vacances’

Dyma’ch recordiadau o’r wers ddydd Gwener, Blwyddyn 11.  Da iawn am sgyrsio’n dda am 5 munud gyda’ch gilydd!  Un tip bach – cofiwch nad ydym yn dweud ‘e’ heb acen ar ddiwedd geiriau, yn enwedig berfau yn y presennol, e.e.

– dylai ‘je reste‘ (rwy’n aros) gael ei ynganu fel ‘je rest

– dylai ‘je préfère‘ (mae’n well gen i) gael ei ynganu fel ‘je préfèr‘.

– dylai ‘je voyage‘ (rwy’n teithio) gael ei ynganu fel ‘je voyaj

Arwyddion da yma, felly edrych ymlaen i’ch clywed ddydd Llun.

Audioboos – Mes Vacances

Année 11 – Une carte postale

Bonjour, et voici vos devoirs pour cette semaine – il faut envoyer une carte postale électronique à Madame James!

Mes Vacances – Une Carte Postale

**Attention – cofiwch gadw rheolau’r ysgol parthed cyfathrebu electronig mewn cof**

  1. Ewch i http://ow.ly/B6wrA
  2. Dewiswch lun rydych yn ei hoffi a chliciwch ar “Envoyer en carte postale” ac yna ar “Créer cette carte”.
  3. Ysgrifennwch am eich gwyliau yn Ffrangeg yn y blwch “Votre message”.
  4. Rhowch eich enw yn y blwch “Signature”.
  5. Scroliwch lawr y dudalen a chliciwch ar “Programmer l’envoi” ac yna ar “Prévisualiser” i’w wirio (cofiwch eich acenion!).  Os hoffech newid unrhyw beth, cliciwch ar “Modifier cette carte”.
  6. Os fydd popeth yn iawn, cliciwch “Terminer la carte”.
  7. Rhowch eich enw yn y blwch “Votre nom” a’ch ebost ysgol yn y blwch “Votre e-mail”.
  8. Teipiwch gyfeiriad ebost Mrs James yn y blwch “Vos destinaires”.
  9. Cliciwch “Envoyer”, ac mi gaiff eich cerdyn ei anfon i mi!  Merci!