Blwyddyn 8 – Gwledydd gyda EN / AU / AUX

Voici vos devoirs, Blwyddyn 8!  Cofiwch y rheol yma – er mwyn dweud ‘i/yn’ + gwlad, rhaid defnyddio’r patrymau canlynol:

1. Gwlad benywaidd (sy’n gorffen gyda -e) => EN, e.e. J’habite en Belgique (Rwy’n byw yng Ngwlad Belg)

2. Gwlad lluosog (sydd fel arfer yn gorffen gyda -s) => AUX, e.e. J’habite aux Pays-Bas (Rwy’n byw yn yr Iseldiroedd)

3. Gwlad gwrywaidd (sy’n gorffen gyda unrhyw beth arall) => AU, e.e. J’habite au Canada (Rwy’n byw yng Nghanada)

Dyma gêm i chi ymarfer y rheol yma!  Cofiwch – NID yw ‘Cymru’ yn Ffrangeg yn lluosog (mae’n eithriad i’r rheol uchod…)